Skip to main content

Pathway

Gweithrediadau Nwy

Mae Energy & Utility Skills wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Ynni a Chyfleustodau a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.

DYDDIAD CYHOEDDI: 01/01/2023 ACW Fframwaith Rhif. FR05064

Learning Programme Content

Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:

  • Cymwysterau

  • Sgiliau Hanfodol

  • Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith

49 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 2 Gweithrediadau Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy. Yr isafswm hyd a gynigir yw 12 mis, gyda hyd nodweddiadol o 18 mis.

Yr isafswm credyd gofynnol sydd ei angen ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gweithrediadau Peirianneg Nwy - Gosod a Chynnal a Chadw Cyfarpar Nwy yw 111 o gredydau. Yr isafswm hyd a gynigir yw 36 mis. 

Yr isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Gosod a Chynnal a Chadw Gwres Canolog yw 129 credyd. Yr isafswm hyd a gynigir yw 36 mis.

262 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Gweithredwr Galwad Gyntaf. Yr isafswm hyd a gynigir yw 36 mis.

Entry requirements

Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer llwybrau prentisiaeth Gweithrediadau Nwy. Y cyflogwr, a chanddo syniad clir o'i ofynion, fydd yn gyfrifol am ddewis a recriwtio prentisiaid.

Mae'r cymwysterau sydd wedi'u cynnwys ar y llwybrau Lefel 3 yn heriol a bydd llawer o gyflogwyr yn disgwyl i ymgeiswyr fod wedi ennill Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru.

Fel arfer, bydd ymgeiswyr wedi ennill o leiaf 3-5 TGAU gradd A-C neu gyfwerth, yn ddelfrydol Cymraeg/Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth neu brofiad perthnasol/priodol.

Mae cymwysterau llwybr Lefel 2 yn llai cymhleth felly gall cyflogwyr lacio eu meini prawf recriwtio. 

Rhaid i gyflogwyr fod yn hyderus bod gan y darpar brentis y potensial/gallu dysgu, y cymhelliant a'r ddawn i gyflawni holl ganlyniadau gorfodol y brentisiaeth. Fodd bynnag, gofynnir i gyflogwyr fod yn hyblyg wrth recriwtio pobl i'r Brentisiaeth. 

Gall y llwybr Lefel 3 fod yn ddeniadol i ddysgwyr sydd wedi cwblhau'r cymhwyster Lefel 2 mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu a/neu'r Ddatblygiad mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2).

Mae unigolion sydd â'r nodweddion a'r priodoleddau canlynol yn debygol o fod yn addas ar gyfer y Brentisiaeth hon:

  • Mae nwy yn beryglus os na chaiff ei drin yn gywir, felly mae diogelwch Prentisiaid, eu cydweithwyr a'r cyhoedd o'r pwys mwyaf yn y swydd hon. Rhaid i brentisiaid fod yn ymwybodol iawn o ddiogelwch a bod ag agwedd gyfrifol iawn at waith, gan weithio'n unol â gweithdrefnau iechyd a diogelwch y cwmni bob amser.

  • Rhaid i brentisiaid fod yn barod i wisgo Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) pan fo angen.

  • Mae'r rhain yn swyddi sy'n gofyn llawer yn gorfforol ac sy'n cynnwys plygu a chodi felly mae'n bwysig cael lefel sylfaenol o ffitrwydd i gyflawni'r gwaith yn effeithlon.

  • [DVX31] Mae rhai o'r swyddi hyn (yn enwedig o fewn y gwaith adeiladu rhwydwaith) yn cynnwys gwaith awyr agored, felly dylai Prentisiaid fod yn barod i weithio mewn unrhyw fath o dywydd.

  • Bydd angen i brentisiaid feddu ar sgiliau ymarferol da i drin offer a bod yn barod am waith caled. Mae'r swyddi hyn yn fedrus iawn, a bydd angen cryn allu canolbwyntio ar gyfer rhai agweddau.

  • Mae rhai o'r swyddi hyn yn cynnwys teithio gan y bydd Prentisiaid yn gweithio ar safleoedd gwahanol. Gallent fod yn ymateb i argyfyngau yn ystod y dydd a'r nos, a byddant yn teithio rhwng eiddo cwsmeriaid. 

    Bydd angen i brentisiaid felly fod yn hyblyg ac yn barod i ymaddasu. Bydd rhai cyflogwyr yn mynnu bod gan Brentisiaid drwydded yrru lawn y DU, neu eu bod yn gweithio tuag at gael un, ar ddechrau eu Prentisiaeth, a rhaid iddynt feddu ar drwydded yrru lawn ar ôl ei chwblhau. 

  • Bydd angen i brentisiaid fod â diddordeb yn y diwydiant nwy ac mewn cyfarpar a rhwydweithiau mecanyddol/trydanol/ffisegol.

  • Mae'r rhan fwyaf o'r rolau swydd hyn yn golygu ymdrin â'r cyhoedd o ddydd i ddydd, felly dylai Prentisiaid fod yn drwsiadus a chwrtais.

    Bydd angen sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar, a gallu darparu lefel dda o ofal cwsmeriaid.

  • Yn lân a thrwsiadus, yn brydlon ac yn hunanddisgybledig. 

  • Y gallu i weithio o fewn tîm ac yn annibynnol.


 

Apprenticeship pathway learning programme(s)

Lefel 2: Gweithrediadau Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy

Lefel 2: Gweithrediadau Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy Qualifications

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn:

Lefel 2 - Diploma Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith (Nwy) - Haen Gwasanaeth
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
City & Guilds C00/0343/4 600/1535/4 37 370 Knowledge Saesneg yn Unig

Gweler Atodiad 1 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 2: Gweithrediadau Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy Level Minimum Credit Value
Communication 1 6
Application of number 1 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg 

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 2: Gweithrediadau Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy 129 106
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)

Cyfanswm yr oriau hyfforddi - sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Llwybr hwn yw 235 awr o hyfforddiant.

 

Hyfforddiant yn y gwaith 

Yr isafswm amser hyfforddi yn y gwaith yw 129 awr sy'n cynnwys y canlynol;

Isafswm o 114 awr - Elfen gymhwysedd y cymhwyster cyfun. 

Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;

Isafswm o 15 awr - Amser penodol a dreulir gyda'r cyflogwr/mentor i ychwanegu at hyfforddiant y prentis; gan gynnwys sefydlu.

 

Hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith

Isafswm yr hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yw 106 o oriau.

Isafswm o 76 awr - Elfen wybodaeth y cymhwyster Cyfunol. Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;

- 15 awr - Sefydlu, gan gynnwys ymdriniaeth berthnasol â hawliau cyflogaeth;

- 15 awr - Mentora, adolygiadau, gofal bugeiliol.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd / 45 ODDA Lefel 1 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru

  • 6 chredyd / 45 ODDA Lefel 1 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Peiriannydd Gosod a Chynnal a Chadw Cyfarpar

Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Peiriannydd Gosod a Chynnal a Chadw Cyfarpar Qualifications

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn.

Lefel 3 - Diploma mewn Peirianneg Nwy
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
EAL C00/4670/0 610/1345/6 99 994 Knowledge Saesneg yn Unig

Opsiwn Gosod a Chynnal a Chadw Cyfarpar (B1)
Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Peiriannydd Gosod a Chynnal a Chadw Cyfarpar Level Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg 

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Peiriannydd Gosod a Chynnal a Chadw Cyfarpar 365 645

Cyfanswm yr oriau hyfforddi - sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Llwybr hwn yw 1,010 awr o hyfforddiant.

 

Hyfforddiant yn y gwaith 

Yr isafswm amser hyfforddi yn y gwaith yw 365 awr sy'n cynnwys y canlynol;

Isafswm o 350 awr - Elfen gymhwysedd y cymhwyster Cyfun (B1). 

Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr llwybr cymhwyso a ddewisir;

Isafswm o 15 awr - Amser penodol a dreulir gyda'r cyflogwr/mentor i ychwanegu at 

hyfforddiant y prentis; gan gynnwys sefydlu.

 

Hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith

Isafswm yr hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yw 675 o  oriau.

Isafswm o 645 o oriau - Elfen wybodaeth y cymhwyster Cyfun (B1). Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;

- 15 awr - Sefydlu, gan gynnwys ymdriniaeth berthnasol â hawliau cyflogaeth;

- 15 awr - Mentora, adolygiadau, gofal bugeiliol.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd / 60 ODDA Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru

  • 6 chredyd / 60 ODDA Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Peiriannydd Gosod a Chynnal a Chadw Gwres Canolog

Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Peiriannydd Gosod a Chynnal a Chadw Gwres Canolog Qualifications

Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cyfun a ganlyn.

Lefel 3 - Diploma mewn Peirianneg Nwy
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
EAL C00/4670/0 610/1345/6 117 1170 Knowledge Saesneg yn Unig

Opsiwn Gosod a Chynnal a Chadw Gwres Canolog (CH) (B1)
Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Peiriannydd Gosod a Chynnal a Chadw Gwres Canolog Level Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg 

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Peiriannydd Gosod a Chynnal a Chadw Gwres Canolog 461 754

Cyfanswm yr oriau hyfforddi - sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer y Llwybr hwn yw 1,215 awr o hyfforddiant.

 

Hyfforddiant yn y gwaith 

Yr isafswm amser hyfforddi yn y gwaith yw 461 awr sy'n cynnwys y canlynol;

Isafswm o 446  awr - Elfen gymhwysedd y cymhwyster Cyfun (B1). 

Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr llwybr cymhwyso a ddewisir;

Isafswm o 15 awr - Amser penodol a dreulir gyda'r cyflogwr/mentor i ychwanegu at 

hyfforddiant y prentis; gan gynnwys sefydlu.

 

Hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith

Isafswm yr hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yw 754 o  oriau.

Isafswm o 724 o oriau - Elfen wybodaeth y cymhwyster Cyfun (B1). Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;

- 15 awr - Sefydlu, gan gynnwys ymdriniaeth berthnasol â hawliau cyflogaeth;

- 15 awr - Mentora, adolygiadau, gofal bugeiliol.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd / 60 ODDA Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru

  • 6 chredyd / 60 ODDA Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Gweithredwr Galwad Gyntaf

Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Gweithredwr Galwad Gyntaf Qualifications

Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwblhau'r cymhwyster cyfun isod.

Lefel 3 - Diploma mewn Peirianneg Nwy
Awarding Body Qualification No. Credit Value Total Qualification Time Combined / Competence / Knowledge Qualification Assessment Lanaguage(s)
EAL C00/4670/0 610/1345/6 250 2500 Knowledge Saesneg yn Unig

Opsiwn Gweithredwr Galwad Gyntaf (FCO) (B1)
Gweler Atodiad 2 am y berthynas rhwng yr unedau cymhwysedd a gwybodaeth o fewn y cymhwyster cyfun.

Essential Skills Wales (ESW)

Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Gweithredwr Galwad Gyntaf Level Minimum Credit Value
Communication 2 6
Application of number 2 6

Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg 

On/Off the Job training

Pathway Minimum On the Job Training Hours Minimum Off the Job Training Hours
Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy – Gweithredwr Galwad Gyntaf 1240 1275

Cyfanswm yr oriau hyfforddi - sy'n cynnwys dysgu yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith - ar gyfer y Llwybr hwn yw 2545 awr o hyfforddiant.

 

Hyfforddiant yn y gwaith 

Yr isafswm amser hyfforddi yn y gwaith yw 1,240 awr sy'n cynnwys y canlynol;

Isafswm o 1,225 awr - Elfen gymhwysedd y cymhwyster Cyfun (B1).

Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;

Isafswm o 15 awr - Amser penodol a dreulir gyda'r cyflogwr/mentor i ychwanegu at 

hyfforddiant y prentis; gan gynnwys sefydlu.

 

Hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith

Y swm lleiaf o hyfforddiant i ffwrdd o'r gwaith yw 1,305 o oriau sy'n cynnwys y canlynol:

Isafswm o 1,275 awr - Elfen Wybodaeth y cymhwyster Cyfun (B1). Mae hyn yn seiliedig ar reolau cyfuno'r cymhwyster, ond gallai'r oriau amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir;

- 15 awr - Sefydlu, gan gynnwys ymdriniaeth berthnasol â hawliau cyflogaeth;

- 15 awr - Mentora, adolygiadau, gofal bugeiliol.

On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
  • 6 chredyd / 60 ODDA Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru

  • 6 chredyd / 60 ODDA Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru

Other additional requirements

Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol ar gyfer y llwybr hwn.

Job roles

 

Dyma rolau swydd nodweddiadol ar gyfer y llwybrau hyn:

Mae llwybr Lefel 2 fel a ganlyn:

Rôl Swydd

Disgrifiad o’r Swydd

Haen Gwasanaeth Nwy - Hunan-osodBydd y rôl hon yn cynnwys gweithio i sefydliad contractio, defnyddio mapiau a chynlluniau i leoli lleoliad cloddio, paratoi cloddiadau â llaw neu ddefnyddio cyfarpar mecanyddol, gosod ac atgyweirio pibellau a systemau prif gyflenwad, atgyweirio tyllau wedi'u cloddio a phalmentydd ar ôl cwblhau'r gwaith.
Haen Gwasanaeth Nwy – DosbarthuMae'r rôl hon yn cynnwys defnyddio mapiau a chynlluniau i ganfod man cloddio, paratoi gwaith cloddio â llaw neu ddefnyddio cyfarpar mecanyddol, gosod a thrwsio pibellau systemau prif gyflenwad, cysylltu cartrefi ac eiddo busnes â'r rhwydwaith nwy, trwsio gwaith cloddio a phalmentydd ar ôl cwblhau'r gwaith.
Haen Gwasanaeth Nwy - Trwsio a Chynnal a ChadwMae'r rôl hon yn cynnwys: ar ôl canfod gollyngiad nwy allanol, bydd prentis yn canfod man cloddio, yn paratoi gwaith cloddio â llaw neu'n defnyddio cyfarpar mecanyddol, yn gosod ac yn trwsio pibellau a systemau prif gyflenwad ac yn trwsio gwaith cloddio a phalmentydd ar ôl cwblhau'r gwaith.

 

Dyma lwybrau Lefel 3:

Rôl Swydd

Disgrifiad o'r Swydd

Peiriannydd Cyfarpar Nwy - Gosod a Chynnal a ChadwMae'r rôl hon yn cynnwys gosod, canfod diffygion, trwsio a chynnal a chadw amrywiaeth o gyfarpar a systemau nwy domestig yn unol â'r safonau diogelwch ac ansawdd gofynnol.
Peiriannydd Gwres Canolog Nwy - Gosod a Chynnal a ChadwMae'r rôl hon yn cynnwys gosod, canfod diffygion, trwsio a chynnal a chadw amrywiaeth o systemau gwres canolog gwlyb nwy, a systemau nwy yn unol â'r safonau diogelwch ac ansawdd gofynnol.
Gweithredwr Galwad GyntafMae'r rôl hon yn cynnwys ymdrin ag adroddiadau gan y cyhoedd am ollyngiadau nwy er mwyn pennu'r camau gweithredu sydd eu hangen a sicrhau diogelwch, gan amddiffyn pobl ac eiddo.

 

 

 

Progression

Gweithrediadau Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy Lefel 2 

Llwybrau dilyniant i:

Brofiad gwaith neu waith perthnasol

  • Hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud

  • Cymhwyster/cymwysterau academaidd fel Bagloriaeth Cymru

  • Ennill Sgiliau Hanfodol Cymru

  • Mae'n rhaid i unigolion fodloni amodau mynediad (gweler yr amodau mynediad) y Brentisiaeth Lefel 2 a'r cyflogwr sy'n recriwtio.

  • Gall aelodau presennol o'r gweithlu hefyd symud ymlaen i'r Brentisiaeth Lefel 2 hon.

 

Dilyniant o:

  • Drwy gydol unrhyw yrfa yn y diwydiant nwy, bydd unigolion yn derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, gan gynnwys hyfforddiant gloywi a hyfforddiant ar sgiliau newydd, i'w galluogi i gyflawni eu rôl swydd yn gymwys.

  • Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Lefel 2 o dan amgylchiadau arferol, bydd prentisiaid yn parhau i weithio yn eu rôl swydd bresennol.

  • Mae cwblhau Prentisiaeth Lefel 2 mewn Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith (Nwy) yn cefnogi dilyniant i'r Brentisiaeth Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith (Nwy).

  • Nid yw'r Brentisiaeth Defnyddio Nwy yn darparu llwybr dilyniant synhwyrol i brentisiaid sydd wedi cwblhau'r Brentisiaeth Lefel 2 mewn Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith (Nwy). Mae hyn oherwydd bod y sgiliau sydd eu hangen yn y rolau swydd hyn yn wahanol iawn - nid oes cysylltiad gwirioneddol rhwng y ddau gymhwyster dan sylw.

  • I'r unigolyn cywir, gall y Brentisiaeth Lefel 2 hon fod yn hwb cychwynnol i yrfa gyffrous yn y diwydiant nwy.

Am ragor o wybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiant nwy, ewch i www.euskills.co.uk/careers

Gweithrediadau Peirianneg Nwy Lefel 3 - Peiriannydd Gosod a Chynnal a Chadw Cyfarpar Nwy, Peiriannydd Gosod a Chynnal a Chadw Gwres Canolog Nwy a Gweithredwr Galwad Gyntaf

Llwybrau dilyniant i:

  • Gwaith neu brofiad gwaith

  • [DVX31] Hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud. Cymhwyster/cymwysterau academaidd fel Bagloriaeth Cymru

  • Ennill Sgiliau Hanfodol Cymru

  • Cwblhau diploma (14-19) yn llwyddiannus, yn enwedig Y Diploma mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

  • Cwblhau'r cymhwyster Sylfaen mewn Peirianneg Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) a/neu'r Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 2) yn llwyddiannus.

  • Cwblhau 3-5 TGAU gradd 9-4 (A-C) neu gyfwerth yn llwyddiannus, yn ddelfrydol Cymraeg/Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth

  • Gall aelodau presennol o'r gweithlu hefyd symud ymlaen i'r brentisiaeth hon

 

Mae'n rhaid i unigolion fodloni amodau mynediad (gweler yr amodau mynediad) y brentisiaeth a'r cyflogwr sy'n recriwtio.

 

Dilyniant o:

  • Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth o dan amgylchiadau arferol, bydd prentisiaid yn parhau i weithio yn eu rôl swydd bresennol

  • Bydd cwblhau un o'r cymwysterau cyfun ar lefel 3 yn bodloni gofynion y Cyngor Peirianneg ar gyfer statws Technegydd Peirianneg, ac felly'n galluogi'r prentis i fod yn beiriannydd proffesiynol fel y'i diffiniwyd gan yr holl sefydliadau Peirianneg (er enghraifft y Sefydliad Peirianwyr a Rheolwyr Nwy - IGEM)

  • Bydd hyn o gymorth i symud ymlaen i rolau Technegydd, Goruchwylydd a Rheolwr

  • Gall prentisiaid hefyd symud yn llorweddol o fewn y diwydiant i gwblhau cymwysterau cymhwysedd ar yr un lefel

 

Mae'r Brentisiaeth yn cynnig y paratoad gorau posib i ennill statws medrus o fewn y diwydiant. Yn y gorffennol, mae prentisiaid wedi gwneud cynnydd da o fewn y diwydiant, ac mae llawer wedi mynd yn eu blaenau i fod yn Oruchwylwyr, yn Rheolwyr ac yn Rheolwyr Cyffredinol. Mae llawer wedi aros o fewn y diwydiant hyd ddiwedd eu gyrfa.

Drwy gydol unrhyw yrfa yn y diwydiant nwy, bydd unigolion yn derbyn yr hyfforddiant angenrheidiol yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith, gan gynnwys hyfforddiant gloywi a hyfforddiant ar sgiliau newydd, i'w galluogi i gyflawni eu rôl swydd yn gymwys.

Am ragor o wybodaeth am yrfaoedd yn y diwydiant gweithrediadau nwy, ewch i https://www.energyutilitiesjobs.co.uk/

Equality and diversity

Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos ymagwedd weithredol at nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, Beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.

Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.

Tangynrychiolaeth

Does dim data ar gael ar y Gofrestr Diogelwch Nwy ynghylch rhyw ac ethnigrwydd y gweithlu cyfleustodau nwy; fodd bynnag, derbynnir bod menywod a'r rhai o gefndir du neu leiafrifol ethnig wedi'u tangynrychioli. Mae 3.1% o weithlu'r diwydiant defnydd nwy o gefndir ethnig lleiafrifol. Mae gan 15.5% o weithlu'r diwydiant defnydd nwy anabledd, ac mae 8.2% o weithlu'r diwydiant defnydd nwy yn fenywod. 

Ar gyfer y diwydiant rhwydweithiau nwy sy'n gyfrifol am gynhyrchu, dosbarthu a masnachu nwy drwy'r prif gyflenwad, mae 28.3% o weithlu'r diwydiant rhwydweithiau nwy yn fenywod, mae 8.2% o weithlu'r diwydiant rhwydweithiau nwy o gefndir ethnig lleiafrifol ac mae gan 16% o weithlu'r diwydiant rhwydweithiau nwy anabledd.

Datrysiadau ar gyfer mynediad a dilyniant

Mae Sgiliau Ynni a Chyfleustodau yn dadansoddi data cenedlaethol yn rheolaidd ar raddfa a natur y gweithluoedd yn y diwydiannau pŵer, nwy, dŵr a rheoli gwastraff. Mae Strategaeth Adnewyddu’r Gweithlu a Sgiliau Sector 2020 – 2025 yn cynnwys camau gweithredu wedi’u cynllunio ar faterion eang sy'n ymwneud â denu gweithwyr i'r sector a chynhwysiant ac amrywiaeth oddi mewn iddo. Datganiad gweithredu cyhoeddus gan brif gyflogwyr y sector yw Ymrwymiad y Sector i Gynhwysiant gan Sgiliau Ynni a Chyfleustodau

 

Mae gan y sector ynni a chyfleustodau hanes hir o gynnig prentisiaethau technegol o ansawdd uchel a all arwain at yrfaoedd cydol oes mewn diwydiannau cenedlaethol hanfodol. 

Mae'r adolygiadau parhaus o fframweithiau prentisiaeth yn tynnu sylw at faterion posibl a allai fod yn rhwystrau i fynediad. Un o brif gryfderau prentisiaethau yw'r ffaith eu bod yn swyddi cyflogedig. Mae hyn yn rhoi cyfle i gyflogwyr y sector gyflwyno'u hymwybyddiaeth a'u camau gweithredu ar gyfer mynediad a dilyniant i'w strategaethau recriwtio a datblygu. Mae gan nifer o gyflogwyr y sector strategaethau penodol i dargedu grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, ac maent hefyd yn gwneud gwaith yn eu cymunedau ac mewn lleoliadau addysg i hyrwyddo gyrfaoedd yn y sector drwy ddefnyddio enghreifftiau o weithwyr llwyddiannus o gefndiroedd sydd wedi'u tangynrychioli yn y gorffennol.

 

Swyddi Ynni a Chyfleustodau

Mae'r sector ynni a chyfleustodau wedi ymrwymo i recriwtio o'r cymunedau amrywiol y maent yn eu gwasanaethu. Mae'r sector yn ariannu Swyddi Ynni a Chyfleustodau sy'n hysbysebu pob swydd wag gan gynnwys prentisiaethau, ledled y DU. Ceir ffocws ar gyrraedd grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, gan gynnwys menywod, pobl ag anableddau, a phobl o gefndir du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig, fel bod cyfleoedd yn fwy gweladwy i bawb. Mae llawer o gyflogwyr yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy'n cefnogi grwpiau lleiafrifol yn eu gweithle.  Mae cyfleoedd prentisiaeth ar agor i bawb.

 

Ymrwymiad i Gynhwysiant

Mae Prif Swyddogion Gweithredol o fusnesau blaenllaw'r sector wedi ymrwymo i fynd ati'n rhagweithiol i newid ystadegau amrywiaeth a hyrwyddo eu busnesau ymhlith talent sydd heb gynrychiolaeth ddigonol drwy'r Ymrwymiad y Sector i Gynhwysiant. Maent wedi ymrwymo i weithio ar draws pob sector i recriwtio a denu gweithlu sy'n adlewyrchu ac yn siarad â'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Byddant yn tynnu sylw at y gwaith gwych sydd eisoes yn cael ei wneud gan y sector a hefyd yn parhau i ysgogi newid drwy ymrwymiad i ddenu, recriwtio a datblygu ei weithlu mewn modd cynhwysol.

Yn 2020 cyflwynodd y sector fframwaith mesur cynhwysiant y cyflwynodd 24 o sefydliadau ddata iddo.  O'r canlyniadau cyntaf, gwelir bod y sector wedi canolbwyntio ar ddenu a recriwtio ymgeiswyr newydd amrywiol. Mae canlyniadau 2021 yn dangos cynnydd yn nifer y menywod a'r rhai o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig sy'n ymuno â'r sector, ac erbyn hyn yn ymgorffori mesurau ehangach ar draws cylch oes cyflogaeth a nodweddion gwarchodedig.

 

Camau gweithredu allweddol diweddar: 

  • Newidiadau i ofynion mynediad prentisiaethau, recriwtio yn seiliedig ar briodoleddau yn hytrach na chymwysterau
  • Mae ymgeiswyr o dras Du Asiaidd a lleiafrifol ethnig i gyfrif am fwy nag 20% o gronfa dalent Swyddi Ynni a Chyfleustodau (yn sgil ymgyrchoedd wedi'u targedu)
  • Partneriaeth y sector â Chod Peirianwyr Yfory (rhan o Engineering UK) i sicrhau bod gwaith maes y sector mewn ysgolion yn cynnwys myfyrwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
  • Nifer cynyddol o gyflogwyr Hyderus o ran Anabledd ar draws y sector, yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid gan gynnwys Remploy, Shaw Trust ac ENEI
  • Y sector yn cymryd rhan i ddiweddaru'r ymchwil Masculinity in Engineering (Equal Engineers) sy'n archwilio'r cysylltiadau rhwng iechyd meddwl, iechyd a diogelwch a chynhwysiant. 

Employment responsibilities and rights

Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.

Responsibilities

Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr. 

Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr

Atodiad 1 Lefel 2: Gweithrediadau Adeiladu'r Rhwydwaith Nwy

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Mae'r cymhwyster cyfun yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. 

Bydd y rhaniad rhwng y credydau gwybodaeth a chymhwysedd a enillir yn amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir. 

Bydd isafswm o 14 o gredydau gwybodaeth ac isafswm o 23 o gredydau cymhwysedd yn cael eu hennill o ddilyn yr unedau gorfodol. 

Asesir Gwybodaeth a Chymhwysedd ar wahân o fewn y cymhwyster. 

Gallai enghreifftiau o asesiadau gwybodaeth fod ar ffurf gwaith technegol yn yr ystafell ddosbarth, sesiynau gweithdy technegol penodol ac astudiaethau ar lwyfannau ar-lein. 

Gallai asesiad cymhwysedd fod ar ffurf portffolio o gynnyrch sy'n cael eu datblygu, darpariaeth ar-safle 1-1 ac ymweliadau asesu cynlluniedig yn y gweithle.

City & Guilds Lefel 2 - Diploma mewn Gweithrediadau Adeiladu Rhwydwaith (Nwy) - Haen Gwasanaeth

https://www.cityandguilds.com/qualifications-and-apprenticeships/utilities/utilities/6028-network-construction-operations#tab=information

Lefel 3: Gweithrediadau Peirianneg Nwy

Y berthynas rhwng cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth

Saith uned orfodol ac un llwybr o'r unedau dewisol. 

Mae'r cymhwyster cyfun (B1) yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth. 

Bydd y rhaniad rhwng y credydau gwybodaeth a chymhwysedd a enillir yn amrywio rhwng y naill ddysgwr a'r llall, yn dibynnu ar yr unedau dewisol a ddewisir ym mhob opsiwn llwybr cymhwyster. 

Asesir Gwybodaeth a Chymhwysedd ar wahân o fewn y cymhwyster. 

Gallai enghreifftiau o asesiadau gwybodaeth fod ar ffurf gwaith technegol yn yr ystafell ddosbarth, sesiynau gweithdy technegol penodol ac astudiaethau ar lwyfannau ar-lein. 

Gallai asesiad cymhwysedd fod ar ffurf portffolio o gynnyrch sy'n cael eu datblygu, darpariaeth ar-safle 1-1 ac ymweliadau asesu cynlluniedig yn y gweithle. 

Diploma Lefel 3 EAL mewn Peirianneg Nwy

 

https://eal.org.uk/files/EALLEvel3Gas_Engineering-QM_Issue_1.pdf


Document revisions

22 November 2021