Mae Energy & Utility Skills wedi cytuno ar gynnwys y Llwybr hwn. Dyma'r unig Lwybr Prentisiaeth yn y sector Ynni a gymeradwywyd i'w ddefnyddio yng Nghymru ac sy'n gymwys i dderbyn cyllid gan Medr.
DYDDIAD CYHOEDDI: 26/10/2017 Rhif Fframwaith ACW. FR04146
Learning Programme Content
Bydd darpariaeth y Rhaglen Ddysgu yn cynnwys tair elfen orfodol:
Cymwysterau,
Sgiliau Hanfodol
Hyfforddiant yn y gwaith / i ffwrdd o'r gwaith
166 credyd yw'r isafswm credyd gofynnol ar gyfer Llwybr Lefel 3 Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt.
Entry requirements
Y cyflogwr, a chanddo syniad clir o'i ofynion, fydd yn gyfrifol am ddewis a recriwtio prentisiaid.
Mae'r cymwysterau sydd wedi'u cynnwys yn y Brentisiaeth hon yn feichus a bydd llawer o gyflogwyr yn chwilio am ymgeiswyr sydd wedi ennill Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru neu gymhwyster uwch i ddangos bod ganddynt y gallu i gwblhau'r Brentisiaeth.
Byddai ymgeiswyr â chymwysterau peirianneg lefel 2 yn addas iawn ar gyfer y Brentisiaeth hon er y gellir datblygu'r sgiliau hyn drwy'r rhaglen.
Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o'r canlynol (heb eu trefnu yn ôl pwysigrwydd):
Gall trydan fod yn beryglus o beidio â'i drin yn gywir, felly mae diogelwch prentisiaid, eu cydweithwyr a'r cyhoedd o'r pwys mwyaf yn y swydd hon. Mae'n rhaid i brentisiaid fod yn ymwybodol o ddiogelwch a bod ag agwedd gyfrifol at waith.
Mae'r rhain yn swyddi sy'n gofyn llawer yn gorfforol ac sy'n cynnwys plygu a chodi felly mae'n bwysig cael lefel sylfaenol o ffitrwydd i gyflawni'r gwaith yn effeithlon.
Bydd gweithwyr Llinellau Uwchben a Pheirianwyr Tyrbinau Gwynt yn gweithio ar uchder felly ni fyddai unigolion sy'n ofni uchder yn addas ar gyfer y rolau hyn.
Gall pob peiriannydd tyrbin gwynt weithio ar y môr a threulio cyfnodau sylweddol ar y môr, felly dylai ymgeiswyr am y rolau hyn fod yn barod i ystyried hynny os oes angen.
Mae'r swyddi hyn yn golygu gweithio yn yr awyr agored, felly dylai prentisiaid fod yn barod i weithio mewn unrhyw fath o dywydd.
Bydd angen i brentisiaid feddu ar sgiliau ymarferol da i drin offer a bod yn barod am waith caled. Mae'r swyddi hyn yn fedrus iawn, a bydd angen cryn allu canolbwyntio ar gyfer rhai agweddau.
Mae angen sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn ogystal â'r gallu i weithio mewn tîm ac yn annibynnol.
Gall y swydd gynnwys teithio gan fod prentisiaid yn aml yn gorfod mynd allan i weithio ac ymateb i argyfyngau ddydd a nos. Bydd angen i brentisiaid felly fod yn barod i addasu ac yn hyblyg, ac mae trwydded yrru'n ddymunol.
- Yn aml defnyddir lliw i adnabod craidd ceblau, ac yr amgylchiadau hynny mae'n bwysig gallu gweld lliwiau'n gywir. Os yw darpar ymgeiswyr yn pryderu am ddallineb lliw, dylent drafod hyn â'r cyflogwr sy'n recriwtio i ganfod unrhyw addasiadau rhesymol y gellir eu gwneud.
- Bydd rhai o'r rolau swydd hyn yn cynnwys gweithio mewn mannau cyfyng. Os yw darpar ymgeiswyr yn pryderu am glawstroffobia, dylent drafod hyn â'r cyflogwr sy'n recriwtio i ganfod unrhyw addasiadau rhesymol y gellir eu gwneud.
- Bydd angen i brentisiaid fod â diddordeb brwd yn y Sector Pŵer ac mewn cyfarpar a rhwydweithiau mecanyddol/trydanol/ffisegol.
Yn ogystal â gofynion mynediad y Brentisiaeth, byddai cyflogwyr yn disgwyl i Brentisiaid feddu ar Ddiploma NVQ Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg cyn dechrau'r Brentisiaeth.
Ni chaiff dysgwyr heb y cymhwyster hwn eu heithrio o'r Brentisiaeth, ond byddai disgwyl iddynt ei gwblhau fel gofyniad ychwanegol gan y cyflogwr ar gyfer y llwybr.
Apprenticeship pathway learning programme(s)
Lefel 3: Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt
Lefel 3: Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt Qualifications
Mae'n rhaid i'r cyfranogwyr ennill un o'r cymwysterau cymhwysedd a gwybodaeth a ganlyn:
| Diploma NVQ Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Peirianneg | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
| EAL | C00/0219/4 501/0544/9 | 167 | 1670 | Combined | Saesneg yn Unig |
| Diploma NVQ Estynedig Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw Peirianneg | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
| EAL | C00/0357/5 600/2084/2 | 179 | 1790 | Combined | Saesneg yn Unig |
| Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Pŵer Trydanol - Cynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt (Gwybodaeth Dechnegol) QCF) | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
| City & Guilds | C00/0374/6 600/2700/9 | 78 | 780 | Competence | Saesneg yn Unig |
| Diploma Lefel 3 mewn Technolegau Peirianneg | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Awarding Body | Qualification No. | Credit Value | Total Qualification Time | Combined / Competence / Knowledge | Qualification Assessment Lanaguage(s) |
| EAL | C00/0717/8 601/5801/3 | 68 | 680 | Competence | Saesneg yn Unig |
Essential Skills Wales (ESW)
| Lefel 3: Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt | Level | Minimum Credit Value |
|---|---|---|
| Communication | 2 | 6 |
| Application of number | 2 | 6 |
Ieithoedd asesu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yw Cymraeg a Saesneg
On/Off the Job training
| Pathway | Minimum On the Job Training Hours | Minimum Off the Job Training Hours |
|---|---|---|
| Lefel 3: Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt | 462 | 912 |
On/Off the Job Qualification details (Minimum Credit & Hours)
Mae angen o leiaf 175 credyd i gyflawni'r Brentisiaeth Gosod a Chomisiynu Tyrbinau Gwynt.
Mae'r rhain wedi'u rhannu fel a ganlyn: Cymhwysedd – 85, Gwybodaeth – 78, Sgiliau Hanfodol Cymru - 12
Rhaid cyflawni cyfanswm o 1,374 o oriau hyfforddiant yn y gwaith ac i ffwrdd o'r gwaith.
On/Off the Job Essential Skills details (Minimum Credit & Hours)
6 chredyd / 45 ODDA Lefel 2 Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru
6 chredyd / 45 ODDA Lefel 2 Cymhwyso Rhif Sgiliau Hanfodol Cymru
Other additional requirements
Nid oes unrhyw ofynion ychwanegol eraill yn gysylltiedig â'r llwybr hwn
Job roles
Technegydd Prentis Tyrbinau Gwynt
Ymgymryd â'r gwaith o archwilio a chynnal a chadw systemau tyrbinau gwynt, a chanfod lleoliad a'r achosion wrth wraidd diffygion yn ogystal â thynnu ac ailosod systemau a chydrannau. Rhaid i brentisiaid gydymffurfio â rheoliadau statudol a gofynion diogelwch sefydliadol a byddant yn gweithio gydag eraill.
Progression
Lefel 3: Gweithrediadau a Chynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt
Dilyniant i'r llwybr:
Gellir cael mynediad ar hyd ystod o lwybrau, gan gynnwys:
Profiad gwaith neu waith perthnasol
Hyfforddiant a/neu brofiad a allai gynnwys portffolio sy'n dangos yr hyn y maent wedi'i wneud. Cymhwyster/cymwysterau academaidd fel Diploma Canolradd Bagloriaeth Cymru.
Ennill Sgiliau Hanfodol Cymru
Cwblhau Prentisiaeth Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus, er enghraifft mewn Peirianneg.
Llwybrau dilyniant allan o'r Brentisiaeth:
Bydd dilyniant yn dibynnu ar berfformiad a chymhelliant yr unigolyn a'r swyddi gwag/cyfleoedd sydd ar gael o fewn y sefydliad ac o fewn sefydliadau eraill yn y sector.
I'r unigolyn cywir, gall y Brentisiaeth hon fod yn hwb cychwynnol i yrfa gyffrous yn y Sector Pŵer.
Dyma enghraifft bosibl o lwybr dilyniant fertigol:
Technegydd ar Brentisiaeth – Technegydd dan Hyfforddiant – Technegydd Cymwys/Technegydd - Technegydd Awdurdodedig – Goruchwylydd Safle dan Hyfforddiant – Goruchwylydd Safle – Uwch Oruchwylydd Safle.
Pan fydd unigolyn yn cyrraedd swydd Technegydd Awdurdodedig, mae cyfleoedd ar gael am ddilyniant llorweddol. Gallai Technegydd Awdurdodedig symud ymlaen i fod yn Dechnegydd Llafnau neu'n Hyfforddwr Diogelwch ac yna'n Hyfforddwr Technegol.
Equality and diversity
Mae'n bwysig bod Llwybrau prentisiaeth yn gynhwysol ac yn gallu dangos ymagwedd weithredol at nodi a chael gwared â ffactorau sy'n atal mynediad a dilyniant. Dylai llwybrau hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion a chanddynt nodweddion gwarchodedig a'r rhai nad oes ganddynt y nodweddion hynny, fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Y nodweddion gwarchodedig a nodwyd yn y Ddeddf Cydraddoldeb yw oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth. Mae priodas a phartneriaeth sifil hefyd wedi'u cynnwys, ond dim ond yng nghyswllt y gofyniad i gael gwared â gwahaniaethu mewn cyflogaeth.
Mae'n RHAID i ddarparwyr hyfforddiant a chyflogwyr hefyd gydymffurfio â'r ddyletswydd arall o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn ymgeiswyr yn nhermau mynediad i'r diwydiant ar sail y naw o nodweddion gwarchodedig hynny.
Tangynrychiolaeth yn y sector
Mae diffyg cydbwysedd rhwng y rhywiau yn effeithio ar y Sector Pŵer, gyda menywod i gyfrif am gyn lleied ag 26.8% o'r gweithlu, o gymharu â chyfartaledd y DU o 43%. Mae'r gynrychiolaeth o fenywod hyd yn oed yn is mewn rolau technegol, sef 1.7% o'r gweithlu o gymharu â chyfartaledd y DU o 8.6%. Yn ogystal â hyn, dim ond 4% o weithlu'r Sector Pŵer sy'n Ddu, yn Asiaidd ac yn Lleiafrifol Ethnig o gymharu ag 8% o weithlu'r DU.
Rhwystrau i fynediad a dilyniant
Canfyddiadau di-sail ynghylch addasrwydd rolau technegol o fewn y diwydiant i fenywod yw'r prif rwystr i fynediad a dilyniant ymhlith y grwpiau tangynrychioledig hyn.
Camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â rhwystrau i fynediad a dilyniant. Ystyrir bod prentisiaethau yn llwybr hanfodol i hyrwyddo ac annog amrywiaeth fwy o unigolion i ymuno â'r diwydiant.
Nid yw'r Brentisiaeth hon yn gwahaniaethu. Mae'n rhaid i gyflogwyr/ddarparwyr allu dangos nad oes unrhyw arferion gwahaniaethol amlwg na chudd wrth ddethol a chyflogi. Fel isafswm, bydd yn rhaid i'r holl weithgareddau hyrwyddo, dethol a hyfforddi gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, yn enwedig nodweddion gwarchodedig Deddf Cydraddoldeb 2010.
Am ganllawiau, edrychwch ar:
www.equalityhumanrights.com/advice-and-guidance/new-equality-act-guidance/
Mae Energy & Utility Skills a chyflogwyr y Sector Pŵer wedi sefydlu'r Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Pŵer i ddatblygu capasiti, gallu, ansawdd a chysondeb hyfforddiant ac addysg i greu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer sector Pŵer cynaliadwy yn y DU. Un o amcanion strategol yr Academi Sgiliau yw: "Gwneud y sector yn amrywiol a deniadol i gyflogeion, dysgwyr a hyfforddwyr y presennol a'r dyfodol, gan ddangos llwybrau gyrfa a datblygu clir cydnabyddedig a chydgysylltu gwaith i hyrwyddo'r sector ymhlith recriwtiaid a dysgwyr newydd, yn unol â'r gyfundrefn addysg drwy ysgolion, cynghorwyr gyrfa ac Addysg Bellach ac Uwch."
Mae'r Academi Sgiliau wedi sefydlu'r Gweithgor Sector Deniadol er mwyn: "Ehangu'r "gronfa" o ddarpar gyflogeion yn y diwydiant pŵer drwy godi proffil y sector a'i wneud yn fwy deniadol."
Mae'r gweithgor wedi cynhyrchu strategaeth sector deniadol sy'n canolbwyntio ar ddau faes gweithgarwch allweddol: ymgysylltu â rhanddeiliaid a dysgwyr. Bydd yn canfod datrysiadau ar gyfer mynediad a dilyniant.
Mae gwefan Think Power www.thinkpowersector.co.uk yn un enghraifft o'r gwaith sy'n digwydd i wneud i'r sector ymddangos yn fwy deniadol.
Employment responsibilities and rights
Nid yw Cyfrifoldebau a Hawliau Cyflogaeth (CHC) yn orfodol mwyach. Ond argymhellir bod pob prentis (yn enwedig y grŵp 16-18 oed) yn derbyn rhaglen sefydlu yn y cwmni.
Responsibilities
Cyfrifoldeb Darparydd yr Hyfforddiant a'r Cyflogwr yw sicrhau bod gofynion y Llwybr hwn yn cael eu bodloni yn unol â Chanllawiau Prentisiaethau Llywodraeth Cymru/Medr.
Gellir cael rhagor o wybodaeth gan: Medr
Atodiad 1
C00/0219/4 / 501/0544/9 Diploma NVQ Lefel 3 EAL mewn Cynnal a Chadw Peirianneg – Cymhwysedd
https://eal.org.uk/support/document-library/qualification-specs/136-spec-501-0544-9
C00/0357/5 / 600/2084/2 Diploma Estynedig NVQ Lefel 3 EAL mewn Cynnal a Chadw Peirianneg – Cymhwysedd
https://eal.org.uk/support/document-library/qualification-specs/271-spec-600-2084-2
C00/0717/8 / 601/5801/3 Diploma NVQ Lefel 3 mewn Technolegau Peirianneg – Gwybodaeth
https://eal.org.uk/support/document-library/qualification-specs/261-spec-601-5801-3
C00/0374/6 / 600/2700/9 Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Peirianneg Pŵer Trydanol - Cynnal a Chadw Tyrbinau Gwynt – Gwybodaeth