- Framework:
- Hairdressing
- Level:
- 2/3/4
Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth hon byddwch yn ymgymryd â rolau fel:
- Triniwr Gwallt/Cynllunydd Iau (Prentisiaeth Sylfaen)
- Triniwr Gwallt neu Gynllunydd (Prentisiaeth)
Fel Cynllunydd Iau byddwch yn darparu gwasanaethau sylfaenol sy'n cynnwys torri, cynllunio, lliwio, sychu a gorffen gwallt.
Fel Cynllunydd neu Driniwr Gwallt byddwch yn darparu gwasanaethau sy'n cynnwys torri gwallt yn greadigol, lliwio gwallt, cywiro lliw, cynllunio a thrin gwallt yn greadigol, creu amrywiaeth o gynlluniau pyrm a darparu gwasanaethau estyniadau gwallt.
Gallwch chi weithio mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys salonau trin gwallt, mewn sba, ysbytai, cartrefi gofal, carchardai, siopau adrannol, gwestai, cwmnïau hedfan a chyrchfannau gwyliau.
Drwy gwblhau'r rhaglen brentisiaeth lefel uwch hon byddwch yn ymgymryd â rolau fel Uwch Gynllunydd, Uwch Ymarferydd, Rheolwr Salon neu Gyfarwyddwr Salon.
Fel Uwch Ymarferydd/Uwch Gynllunydd byddwch yn rheoli salon i safon uchel, gan gynnwys gofalu am gwsmeriaid, defnyddio dulliau ffasiwn cyfredol, gweithio mewn tîm a gweithio fel unigolyn. Bydd gennych chi'r gallu i gynghori ac arwain aelodau'r tîm e.e. prentisiaid, aelodau staff iau, gan gydymffurfio â phob agwedd ar Iechyd a Diogelwch. Byddwch yn darparu gwasanaethau gwallt o bob math, yn cyflawni nodau gwasanaeth a manwerthu, yn gallu cadw a chynyddu sylfaen cleientiaid dda, a gweithredu mewn ffordd gyfoes a blaengar. Byddwch yn goruchwylio'r tîm o gynllunwyr, yn monitro ansawdd y triniaethau sy'n cael eu cynnig ac yn monitro gweithgarwch cleientiaid.
Fel Rheolwr / Cyfarwyddwr Salon byddwch yn gyfrifol am reoli gweithredol y busnes o ddydd i ddydd, recriwtio staff a llesiant staff, iechyd a diogelwch, marchnata a gwerthiant. Byddwch yn sicrhau bod staff yn cael y llwyth gwaith cywir ar gyfer eu sgiliau, bod cleientiaid yn fodlon â'r gwasanaeth a bod triniaethau sy’n cael eu darparu o safon uchel bob amser.
Gallwch weithio mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys salonau trin gwallt, lleoliadau sba, ysbytai, cartrefi gofal, carchardai, siopau adrannol, gwestai, cwmnïau hedfan a chyrchfannau gwyliau.
Pathway options and levels
Prentisiaeth Sylfaen mewn Trin Gwallt - Lefel 2
Addas ar gyfer swydd Cynllunydd Iau
Prentisiaeth mewn Trin Gwallt - Lefel 3
Addas ar gyfer swydd Cynllunydd neu Driniwr Gwallt
Trin Gwallt – Lefel 4
Llwybr 1: Addas ar gyfer swydd Uwch Ymarferydd/Uwch Gynllunydd.
Llwybr 2: Addas ar gyfer swydd Rheolwr/Cyfarwyddwr Salon.
Further information
Duration
Level 2: 24 mis
Level 3: 24 mis
Level 4: 12 mis
Progression routes
Lefel 2: Mae’r llwybrau camu ymlaen yn cynnwys –
- Prif Ddysgu Bagloriaeth Cymru Lefel Uwch mewn Astudiaethau Gwallt a Harddwch.
- Prentisiaeth Lefel 3 mewn Trin Gwallt neu Waith Barbwr.
- Cyflogaeth fel cynllunydd iau neu swyddi eraill yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â thrin gwallt
Lefel 3: Mae'r llwybrau camu ymlaen yn cynnwys -
- Cyflogaeth fel triniwr gwallt neu swyddi eraill yn y diwydiannau sy'n gysylltiedig â thrin gwallt.
- Prentisiaeth Uwch mewn Trin Gwallt
- Addysg uwch fel gradd Sylfaen mewn Trin Gwallt a Rheoli Salon neu raglenni eraill.
Lefel 4: Gall dysgwyr gamu ymlaen o'u prentisiaeth drwy ddilyn llwybrau amrywiol.
Gall dysgwyr gamu ymlaen drwy gael dyrchafiad mewn salon, naill ai mewn grŵp o salonau neu drwy weithio i gyflogwr newydd. Hefyd, gallant gymryd rhan mewn gwaith masnachfreinio, a dod yn gyflogwyr eu hunain.
Ar ôl cwblhau'r fframwaith hwn, gall dysgwyr barhau â'u hastudiaethau i ennill cymwysterau rheoli trin gwallt lefel uwch.
Bydd eraill yn magu hyder creadigol yn gweithio ar y llwyfan ac ym maes hyfforddiant neu'n gweithio fel rheolwr salon, cyfarwyddwr creadigol, asesydd salon neu arweinydd tîm.
Qualifications
Lefel 2: Diploma NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt
Lefel 3: Diploma NVQ Lefel 3 mewn Trin Gwallt
Lefel 4: Diploma Lefel 4 mewn Technegau ac Ymarfer Rheoli Uwch mewn Trin Gwallt.
What are the entry requirements for this pathway?
All apprenticeship pathways in Wales have entry requirements.
If you are interested in undertaking this pathway – you need to have the following entry level qualification(s);
Level 2
Bydd yn fanteisiol os oes gennych 3 chymhwyster TGAU Gradd D neu uwch mewn Saesneg a/neu Gymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gelf.
Level 3
Bydd yn fanteisiol os oes gennych 3 chymhwyster TGAU Gradd C neu uwch mewn Saesneg a/neu Gymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gelf.
Level 4
Dim gofynion mynediad ffurfiol.
View full pathway